Ffurfiwyd y côr yn 1953. Daw'r aelodau o fewn cylch o 10 milltir o Harlech, ardal lle mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith y mwyafrif o'r trigolion. Maent yn cynnal cyngherddau lleol yn aml ac maent wedi codi miloedd o bunnoedd at achosion da dros y blynyddoedd.
Yn y blynyddoedd diweddar, bu'r Côr ar deithiau i'r Alban, Llydaw, Denmarc, ac Awstria; hefyd i Loegr, Iwerddon a'r Almaen lawer gwaith.
Mae'r Côr yn edrych ymlaen at recordio CD newydd yn fuan. Mae sôn hefyd am daith i Norwy yn 2018. Mae'r Côr bob amser yn croesawu aelodau newydd.
Cynhelir ymarfer bob Nos Sul
Neuadd Gymuned Llanbedr 7.30 o'r gloch
Cliciwch yma os oes gennych diddordeb mewn ymuno.
|